#
Briff Ymchwil
Rhif y ddeiseb: P-05-742 Teitl y ddeiseb: Atal Forsythia rhag Cau Testun y
ddeiseb: Mae Canolfan Ieuenctid
Forsythia mewn perygl o gael ei chau oherwydd ansicrwydd ynghylch
ei threfniadau cyllido gan raglen Llywodraeth Cymru, Cymunedau yn
Gyntaf. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw newidiadau a gaiff eu gwneud i raglen Cymunedau yn Gyntaf yn gwarchod Canolfan Ieuenctid Forsythia rhag cael ei chau. |
Cymunedau yn Gyntaf
Cymunedau yn Gyntaf yw prif raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi. Dechreuodd yn 2001, ond ad-drefnwyd y rhaglen yn 2012 i wella perfformiad ac atebolrwydd. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn anelu at "gau'r bylchau economaidd, addysg/sgiliau ac iechyd rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a rhai mwy cefnog", gyda'r nod tymor hir o "gyfrannu at liniaru tlodi parhaus". Mae'n gwneud hyn trwy ddarparu cyllid i 19 o 'gyrff cyflawni arweiniol' ar gyfer 52 o ardaloedd gwahanol a elwir yn 'glystyrau', sydd wedyn yn dosbarthu arian i brosiectau unigol.
Ym mis Chwefror 2017 cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant y byddai'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei diddymu'n raddol. Yn ystod y cyhoeddiad hwnnw dywedodd:
"Rwy'n ymwybodol o'r effaith bosibl ar unigolion a chymunedau. Felly, byddaf yn mabwysiadu dull gofalus wrth fwrw ymlaen, gan geisio cadw rhai o'r agweddau mwyaf effeithiol ar y gwaith a wnaethpwyd gan Cymunedau yn Gyntaf. Byddaf yn sicrhau bod gan y prif gyrff cyflenwi ddigon o amser ac adnoddau i gynllunio'r pontio. Ac felly, rwyf wedi penderfynu y bydd cyllid, ar 70 y cant o'r lefelau presennol, yn cael ei ddarparu hyd at fis Mawrth 2018. Byddaf yn sefydlu cronfa etifeddiaeth gwerth £6 miliwn, i'w chyflwyno ym mis Ebrill 2018 a fydd yn galluogi awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â chymunedau a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, i gynnal rhai o'r asedau cymunedol neu’r ymyraethau mwyaf effeithiol a ddatblygwyd gan Cymunedau yn Gyntaf."
Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet sylwadau hefyd yn benodol ar liniaru unrhyw effaith bosibl ar blant a phobl ifanc:
"Mae buddsoddi yn ein plant yn fuddsoddiad ar gyfer y tymor hir. Dyma'r dull mwyaf cynaliadwy o adeiladu dyfodol mwy llewyrchus.
Rwyf wedi fy nghalonogi gan yr ymatebion cadarnhaol iawn a gafwyd hyd yn hyn i’r gwaith o ddatblygu parthau plant, a sefydlu canolfan ACE i helpu sefydliadau, cymunedau ac unigolion ledled Cymru i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a all gael effaith mor ddinistriol ar gyfleoedd bywyd i blant.
Bydd y mentrau hyn, ynghyd â'n buddsoddiad parhaus yn rhaglenni llwyddiannus Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn sicrhau bod cefnogaeth gynhwysfawr i blant wrth iddynt dyfu’n oedolion."
Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad ar Waith Ieuenctid. Cafodd bob un o'r argymhellion eu derbyn naill ai yn llawn neu mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Mae ymateb llawn Llywodraeth Cymru ar gael ar wefany Cynulliad ac mae trawsgrifiad o'r drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar gael yma: Cofnod y Trafodion, 8 Chwefror 2017
Disgwylir datganiad gan Alun Davies, y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg ar "Ddyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru" ddydd Mawrth 21 Mawrth 2017.
Mae’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn destun craffu gan bwyllgorau’r Cynulliad ar sawl achlysur. Yn fwyaf diweddar, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar 16 Chwefror 2017.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol. |